Santa Pasqua 2003

EMYN MAWL MAIR

(mewn Cymraeg fodern)

Ac meddai Mair:
Y mae fy enaid yn mawrygu yr Arglwydd,
a gorfoleddodd fy ysbrud yn Nuw, fy ngwaredwr,
am iddo ystyried distadledd ei lawforwyn.
Oherwydd wele, o hyn allan fe'm gelwir yn wynfydedig gan yr holl
genedllaethau,
oherwydd gwnaeth yr hwn sydd nerthol bethau mawr i mi,
a sanctaidd yw ei enw ef;
y mae ei drugaredd o genhedlaeth i genhedlaeth
i'r rhau sydd yn ei ofni ef.
Gwnaeth rymuster â'i fraich,
gwasgarodd ddynion balch eu calon;
tynnodd dywysogion oddi ar eu gorseddau,
a dyrchafodd y rhai distadl;
llwythodd y newynog â rhoddion,
ac anfonodd y cyfoethogion ymaith yn waglaw.
Cyhorthwyodd ef Israel ei was,
gan ddwyn i'w gof ei drugaredd -
fel y llefarodd wrth ein tadau -
ei drugaredd wrth Abraham a'i had yn dragywydd.